tic y Fro Gymraeg

Pedwar Peth i Gefnogi'r Ymgyrch

Sut i wneud gwahaniaeth go-iawn mewn dim o dro

  • Yn gyntaf, RWAN HYN, llofnodwch y ddeiseb arlein. Cliciwch yn fan hyn i agor y ddeiseb mewn ffenest newydd.

  • Yn ail, lawrlwytho copi o'r ddeiseb papur. Cliciwch yn fan hyn i wneud hynny mewn ffenest newydd.

  • Yn drydydd, anfon e-bost at cymuned[at]cymuned.org i ofyn am sticeri 'YnyFro.com'.

  • Ac yn bedwerydd, cliciwch yn fan hyn i ymaelodi gyda Chymuned.

Sut mae'r Pedwar Peth yn helpu?

  • Y Ddeiseb Arlein - pob tro mae hwn yn cynyddu mae'n helpu ni i redeg stori yn y Wasg am yr Ymgyrch.

  • Y Ddeiseb Bapur - mae Deiseb draddodiadol yn werth mwy o lawer o ran pwyso ar wleidyddion. Unwaith byddwch wedi lawrlwytho'r ddeiseb, ewch â hi at eich cyfeillion a theulu er mwyn cael cymaint o lofnodion â bod modd, cyn ei hanfon yn ôl i'r cyfeiriad sydd arni.

  • Y Sticeri - ar gyfer pob sticer 'YnyFro.com' rydych yn gosod, daw rhywun ychwanegol at y wefan hon. Nid oes ffordd well o sicrhau bod pawb yn cael clywed am yr Ymgyrch, ac mae'r sticeri yn ddigon bychain a lliwgar i gael effaith yn unrhyw le. E-bostiwch ni er mwyn gofyn am rai.

  • Ymaelodi gyda Cymuned - mae hyn yn gwneud gwahaniaeth tymor hir i'n gallu ni i bwyso ymlaen gyda'r Ymgyrch. Am bob 100 aelod ychwanegol, rydym yn medru cynhyrchu 3000 ychwanegol o sticeri pob mis.
Cliciwch yn fan hyn i wneud gwahaniaeth tymor hir i'r Ymgyrch.

Ydych chi ar dân dros y Fro?

Ydych chi am wneud mwy?

Os felly, cysylltwch gyda'r swyddfa. Rydym yn medru eich rhoi mewn cysylltiad gyda phobl sydd yn helpu ymledu'r gair am yr Ymgyrch mewn nifer o ffyrdd creadigol a heriol, boed yn styntiau neu arwyddion arbennig.

Gyda diddordeb?
Tanysgrifiwch i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

tic y Fro Gymraeg

Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR -- cymuned[at]cymuned.org -- 01758-612712
www.cymuned.org