tic y Fro Gymraeg

Ymgyrch y Fro Gymraeg

Pam bod angen y Fro Gymraeg?

  • Heb gymunedau Cymraeg, ni fydd yr iaith yn goroesi. Mae hyn yn cael ei gydnabod gan arbenigwyr iaith ar draws y byd.

  • Yn ôl cyfrifiad 2001, dim ond 17 o gymunedau Cymraeg (gyda dros 80% o siaradwyr) sydd ar ôl.

  • Mae angen ymateb ar frys, a'r cam cyntaf ydy cydnabod bodolaeth y Fro Gymraeg.

Ydych chi eisiau cael byw bywyd yn y Gymraeg heb boeni amdani?

Cliciwch yn fan hyn i ofyn am ddyfodol i'n cymunedau Cymraeg.

Ar frys?
Tanysgrifiwch i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

Iawn! Dw i isio helpu! (cliciwch yn fan hyn i gefnogi'r ymgyrch)

Diffiniad y Fro Gymraeg

Lle yn union ydy'r Fro Gymraeg, felly?

Mae'r Fro Gymraeg yn cynnwys yr ardaloedd lle mae mwyafrif y Cymry cynhenid yn medru'r Gymraeg. Dyma'r map:

Map y Fro Gymraeg

Y Fro Gymraeg ydy'r ardaloedd coch. Mae'r ardaloedd gwyrdd tywyll yn ddarpar bröydd Cymraeg, lle mae dros 20% o'r Cymry yn medru'r Gymraeg. Dylid fod cymorth ar gael iddynt ddod yn rhan o'r Fro gydag amser, os ydyn nhw eisiau hynny.

Wrth gwrs, hoffem weld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob rhan o Gymru - ond i hyn ddigwydd, mae'n rhaid cryfhau'r Fro law yn llaw gydag ymdrechion eraill i adfywio'r iaith trwy'r wlad gyfan.

Ydych chi eisiau i'ch plant gael SWYDDI o safon yn y Fro Gymraeg?

Cliciwch yn fan hyn i gefnogi ein galwad am Awdurdod Datblygu i'r Fro.

Ar frys?
Tanysgrifiwch i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

Dw i'n barod i helpu! (cliciwch yn fan hyn i gefnogi'r ymgyrch)

Polisïau i'r Fro Gymraeg

Beth mae Cymuned eisiau ei weld ar gyfer y Fro Gymraeg?

  • Cyngor Statudol etholedig yn cynrychioli'r Fro

  • Awdurdod Tai i Gymru

  • Caniatad cynllunio yn y Fro Gymraeg ar gyfer pobl leol yn unig

  • Awdurdod Datblygu Economaidd penodol ar gyfer y Fro

  • Pwyllgor Rhanbarthol y Fro Gymraeg y tu fewn i'r Cynulliad

  • Cymraeg yn iaith fewnol awdurdodau lleol y Fro Gymraeg

  • Bod rhaid i unigolion sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y Fro Gymraeg siarad Cymraeg

  • Gwersi dinasyddiaeth Cymreig a Chymraeg ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r Fro Gymraeg

  • Cymraeg fel cyfrwng addysg i bawb rhwng 3 a 16 yn y Fro

  • Coleg Cymraeg Ffederal (a chymreigio addysg alwedigaethol)

  • Datblygu rhai trefi yn y Fro fel canolfannau fyddai'n apelio at bobl ifanc trefol eu naws

  • Anelu at ymestyn y Fro Gymraeg trwy helpu wardiau eraill ddod yn rhan ohoni

Ydych chi eisiau i'ch plant gael TAI o safon yn fro eu mebyd?

Cliciwch yn fan hyn i alw am dai safonol am bris rhesymol.

Dim yn siwr eto?
Tanysgrifiwch i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

Mae angen rheina! Dw i am helpu! (cliciwch yn fan hyn i gefnogi'r ymgyrch)

Llyfryn y Fro Gymraeg

Oes mwy o fanylion ar gael?

Oes - cliciwch yn fan hyn i ddarllen Llyfryn y Fro Gymraeg fel ffeil pdf arlein.

 Ydych chi eisiau bod yn Nain a Taid, neu yn Granny a Grandpa? 

Cliciwch yn fan hyn ar gyfer dyfodol pob un ohonom ni.

tic y Fro Gymraeg

Crys-T YnyFro.com

Cliciwch ar y llun i brynu'r Crys-T am bris hynod gystadleuol...

Tanysgrifiwch:
i'n e-bost wythnosol am ddim er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Enw cyntaf:
      E-bost:
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch - ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.

Dw i wedi darllen digon - mae'n amser rhoi cymorth! (cliciwch yn fan hyn i gefnogi'r ymgyrch)

Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR -- cymuned[at]cymuned.org -- 01758-612712
www.cymuned.org